Aelodaeth o’r Gymdeithas

Aelodaeth o’r Gymdeithas

Os ydych chi’n gwerthfawrogi trftadaeth, traddodiadau a hanes bywyd gwyllt Ynys Môn, cewch gyfle i gyfarfod pobl efo’r un diddordebau wrth ymuno efo Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn, gan efallai ehangu a gwyntyllu eich profiadau.

Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1911, gydag aelodaeth oddeutu 1,000 erbyn heddiw, led led y byd (Rhid Elusen : 507837).

Mae’r gweithgareddau yn cynnwys tair darlith y flwyddyn, dau gyfarfod cymdeithasol a rhaglen o ymweliadau yn yr Haf. Cynhelir y cyfarfodydd fel arfer yn Oriel Ynys Môn, Llangefni.

Oherwydd ei henw da, llwydda’r Gymdeithas i ddenu siaradwyr o safon academaidd i drafod testunau archaeolegol, hanesyddol, cymdeithasol a bywyd gwyllt, yn Gymraeg a Saesneg. Cynllunir y rhain i apelio at bawb, yr ysgolhaig a’r amatur.

Ers 1966, cyhoeddodd y Gymdeithas nifer o gyfrolau yn ei chyfres “Studies in Anglesey History”, yn delio efo nifer amrywiol o agweddau ar hanes yr Ynys. Gellir prynu’r rhain naill ai drwy’r siopau neu Swyddog Cyhoeddiadau’r Gymdeithas, ond fe gynigir y llyfrau i aelodau am bris gostyngol cyn eu cyhoeddi.

Derbynia aelodau gopi o Drafodion y Gymdeithas yn flynyddol, a dau gychlythyr, un yn y Gwanwyn a’r llall yn yr Hydref.

Fe gewch CHI hyn i gyd am danysgrifiad blynyddol rhesymol iawn.

Tanysgrifiadau 0 1 Ebrill 2016
Aelodau Unigol £15.00
Aelodau ar y cyd, yn byw yn yr un cyfeiriad £20.00 (Un copi o’r Trafodion)
Sefydliadau £20.00

Danfonir un copi yn rhad ac am ddim at aelodau ym Mis Hydref.

Os ddymunir ymaelodi argraffwch y ffuflen gais am aelodaeth a ddanfonwch o ymlaen i’r Ysgrifennydd Aelodaeth Mygedol, Mr. Siôn Caffell, 1 Fronheulog, Sling, Tregarth, Bangor, Gwynedhttp://www.hanesmon.org.uk/aaswp/wp-content/Files/wmemform15.pdfd LL57 4RD, ( 01248 600 083.