Ysgol Undydd Sadwrn 11 Chwefror 2023

Diwylliant Capeli Môn: Anghydffurfiaeth a Newid Cymdeithasol yn ystod y 19eg ganrif

I’w gynnal yng Nghanolfan Glanhwfa, Capel Moreia, Llangefni – 9:15 y bore – 5:00 y pnawn.

Y gôst fydd £30 y pen, i gynnwys cinio a lluniaeth.

Y Rhaglen (Nodwch bydd y darlithoedd yn cael eu traddodi trwy gyfrwg y Saesneg)

9:15-9:30 Cofrestru a Chyflwyniad gan y Parch Ieuan Elfryn Jones

9:30 – 10:30 Darlith 1 + Cwestiynau/Trafodaeth
Yr Athro Densil Morgan –Disyniad, Anghydffurfiaeth a’r Eglwysi Rhyddion yng Nghymru yn ystod y cyfnod 1760-1914

10:30 – 11:00 – Lluniaeth.

11:00 – 11:50 Darlith 2 + Cwestiynau/Trafodaeth
Dr Eryn White – Methodistiaeth Cynnar ym Môn.

 12:00 -12:50 Darlith 3 + Cwestiynau/Trafodaeth
Dr Gareth Evans Jones – Y Pâb Methodistaidd: Ystyriaeth o Grefyddoldeb John Elias o Fôn.

 13:00 – 14:00 Cinio

14:10-14:35 Darlith 4
Yr Athro Densil Morgan – Christmas Evans: Gweinidog y Bedyddwyr ac Arloeswr Anghydffurfiaeth ym Môn.

 14:35 -15:00 Darlith 5
Y Parch Ieuan Elfryn Jones – Bywyd Cymdeithasol y Capel ym Môn.

 15:00 – 15:50 Darlith 6 + Cwestiynau/Trafodaeth
Sue Fielding (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) – Pensaernïaeth y Capeli.

 16:00 – 17:00 Casgliadau a Sylwadau Cloi
Trafodaeth dan ofal Dr Sylvia Pinches.

Os gwelwch yn dda, anfonwch eich enwau ar gyfer y Gynhadledd trwy gysylltu â Gareth Huws (Tel: 07957 314 584; e-bost g.huws@hanesmon.org.uk.).

Wedi cadarnhau eich lle, gofynnwn i chi dalu’r ffi o £30 y pen o flaen llaw:
Unnai, trwy anfon siec (taladwy i Anglesey Antiquarian Society) i’r Trysorydd (1 Fronheulog, Tregarth, Bangor, Gwynedd LL57 4RD) gan gofio nodi gyda’r siec eich enwau a’ch manylion cyswllt;
Neu, trwy ddefnyddio PayPal gan glicio ar y botwm isod ‘Buy now’.
(Nid yw’n angenrheidiol bod â chyfrif Paypal i wneud taliad).

Saesneg