‘Cyhoeddwn Efengyl’– Crefydd a Newid Cymdeithasol ym Môn Anghydffurfiol
Bydd yr Aelodau’n siomedig iawn o glywed bod y sefyllfa bresennol parthed y pandemig ynghyd â’r cyfyngiadau sydd mewn grym wedi arwain y Pwyllgor i benderfynu gohirio’r digwyddiad pwysig a diddorol hwn tan Sadwrn Chwefror 11eg 2023.
Trefnwyd restr arbennig o ddarlithwyr ar gyfer yr achlysur a mawr obeithiwn y bydd pob un ohonynt ar gael y flwyddyn nesaf wrth inni ddadansoddi yr effaith gafodd Anghydffurfiaeth ar fywyd Môn rhwng y 18fed a’r 19eg ganrif hyd heddiw. Ein gobaith yw cadw’r pris yn rhesymol rhwng £25 a £30
Rhwng Mai a Medi 2022, bydd y Gymdeithas yn trefnu nifer o deithiau awyr agored. Cynhelir y gyntaf ar Mai 28ain 2022 pan fyddwn yn gwario’r pnawn yn ymweld â phedwar capel hanesyddol yn ardal Llangefni: Ebenezer, Rhos y Meirch (1749); Cildwrn, capel y Bedyddwyr yn wreiddiol ers 1750 (a than ofal y Parch.Christmas Evans o 1791 ymlaen) ac yn awr yn Eglwys Efengyladd; Capel Penuel a sefydlwyd yn 1897 fel Capel Coffa i Christmas Evans; Capel Moreia a adeiladwyd ar ddechrau’r 20fed ganrif ac a nodwyd fel Capel Coffa i’r Parch John Elias. Moreia fydd y capel lle bwriedir cynnal ein Ysgol Un-dydd yn 2023. Gobeithiwn weld nifer ohonoch ar y daith hon fydd yn rhoi rhagflas inni o’r hyn i ddisgwyl yn 2023. Dyma’r rhaglen a drefnwyd ar gyfer yr Ysgol Un-dydd eleni, a hyderwn weld yr un rhaglen yn cael ei gweithredu yn 2023:
- Cyflwyniad: Ieuan Elfryn Jones – Perspectif eglwysig gwahanol: Cyflwyniad i ddatblygiad Anghydffurfiaeth ym Môn
- Darlith 1: Yr Athro Densil Morgan – Ymneilltuo, Anghydffurfiaeth a’r Eglwisi Rhyddion yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ‘hir’, 1760-1914
- Coffi
- Darlith 2: Dr Eryn White (Aberystwyth) – Methodistiaeth Cynnar ym Môn
- Darlith 3: Dr Gareth Evans Jones (Bangor) – Y Pâb Methodistaidd: Ystyriaethau ar grefyddusrwydd John Elias o Fôn
- Cinio
- Darlith 4: Sue Fielding (CBHC) – Pensaernïaeth Capelydd
- Pytiau Byrion:
-
- Densil Morgan – Christmas Evans: Gweinidog Y Bedyddwyr ac arloeswr Anghydffurfiaeth ym Môn
- Ieuan Elfryn Jones – Gwlad Heddychlon mewn byd rhyfelgar: Dylanwad y Parch. John Williams, Brynsiencyn ar recriwtio i fyddin y Rhyfel Byd Cyntaf
- Andrew Davidson – Robert Roberts, Pandy Treban, Bryngwran
- Robin Grove White – Helyntion yn Llanfechell
- Diweddglo: Parch Ieuan Elfryn Jones – ‘Ewch rhagoch a chyhoeddwch fod y drysau ar agor led y pen: Bythol esblygiad enwadaeth ym Môn