Trafodion

Clawr Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn

Mae’r Gymdeithas wedi bod yn cyhoeddi ei Chylchgrawn, y Trafodion, yn flynyddol ers 1913. Maent yn gofnod pwysig a sylweddol o hanes yr Ynys ac fe’u defnyddir yn helaeth gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr ar bob lefel o addysg yn ogystal â chan unigolion sydd â diddordeb. Gellir eu gweld mewn llawer o Lyfrgelloedd ac Archifau yng Ngogledd Cymru ac mewn nifer o lyfrgelloedd prifysgol yng Nghymru a Lloegr.

Mae pob aelod o Gymdeithas Hynafiaethwyr Môn yn derbyn copi print o’r Trafodion bob blwyddyn. Dysgwch fwy am ddod yn aelod.

Mae gan y wefan hon fynegai chwiliadwy o awduron a theitlau pob papur hyd at y gyfrol ddiweddaraf.

Mae pob cyfrol Trafodion hefyd yn cynnwys ein hadroddiad blynyddol am weithgareddau’r gymdeithas, gan gynnwys y rhaglen ddarlithoedd.

Mynegai Pynciau

Cyhoeddwyd Mynegai Pynciau mwy cyflawn i’r Trafodion ar gyfer y cyfnod 1913-1985 gan y Gymdeithas ym 1987 i ddathlu ei phen-blwydd yn 75 oed. Fe’i lluniwyd gan Mr. Dewi O Jones, F.L.A., a wasanaethodd y Gymdeithas fel ei Ysgrifennydd Anrhydeddus rhwng 1961-1982 ac fel Is-lywydd Oes rhwng 1983-2005. Mae hwn bellach wedi’i ddigideiddio mewn fformat chwiliadwy.

Ôl Rifynnau

Mae gennym ôl gopïau o lawer o’r cyfrolau mwy diweddar, rhai yn mynd yn ôl i’r 1980au. Gallwn hefyd ddarparu sganiau o erthyglau unigol. I ymholi ynghylch argaeledd a chostau, cysylltwch â Swyddog Cyhoeddiadau’r Gymdeithas drwy e-bost yn aas.publications@hanesmon.org.uk .

Mae sganiau llawn o rai o’r cyfrolau cynharaf, o’r 1910au a’r 1920au, ar gael ar wefan T. P. T. Williams.

Cywiriadau

Gellir gweld cywiriadau i bapurau mewn cyfrolau cynharach yma.

Cydnabyddiaethau

Mae’r Gymdeithas yn cydnabod y gefnogaeth hael y mae wedi’i derbyn dros nifer o flynyddoedd gan Gyngor Sir Ynys Môn a chyn Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn ar ffurf cymorth grant tuag at gost argraffu.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn cydnabod yn ddiolchgar y gwaith a wnaed gan y Golygyddion

Cyn-Olygyddion:

  • Y Parch William Pritchard; 1912 – 1920
  • Y Parch E. P. Powell; 1912 – 1923
  • Hugh Owen; 1921 – 1938
  • Y Fonesig G. Nesta Evans; 1938 – 1954
  • W. Ogwen Williams; 1949 – 1969
  • Yr Athro A. D. Carr; 1966 – 2006
  • Ann Benwell (Golygydd ar y Cyd); 2011-2013
  • David Longley, 2007 – 2014
  • Dr Lowri Ann Rees 2015 – 2018
  • Pwyllgor golygyddol dan arweiniad Frances Lynch Llewellyn 2019
  • Leona Huey 2020 – 2021
  • Dr Sylvia Pinches 2021- presennol