Llyfryddiaeth Ynys Môn

Lluniwyd Llyfryddiaeth o weithiau yn trafod Ynys Môn gan Mr. Dewi O Jones, F.L.A., a cafodd ei gyhoeddi gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd ym 1979. Mae’n fan cychwyn hanfodol wrth chwilio am wybodaeth am hanes yr Ynys. Mae’r llyfryddiaeth allan o brint ond wedi ei wneud ar gael ar-lein gan y Gymdeithas fel rhan o’n Dathliadau Canmlwyddiant. Mae’n rhestru ffynonellau eilaidd a gyhoeddwyd ar bynciau Ynys Môn a ymddangosodd mewn print cyn 31 Rhagfyr 1977. Nodir cwmpas y llyfryddiaeth a’r ffynonellau a ymgynghorwyd â nhw yn y Cyflwyniad i’r Llyfryddiaeth.

Roedd gan y llyfryddiaeth wreiddiol drefniant cymhleth iawn. Roedd nifer o fynegeion a oedd yn cyfeirio at rifau. Cedwir y rhifau hynny yn y gronfa ddata hon fel y ‘Bib_Ref’.

Roedd prif adran y llyfryddiaeth yn cynnwys dros 5,000 o gofnodion wedi’u rhifo ac wedi eu trefnu yn 3 rhan

  • Adran A: Ynys Môn – Rhestr gyffredinol yn nhrefn y pwnc, rhifau 1 – 2712
  • Adran B: Plwyfi – wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl plwyf ac yna yn ôl pwnc, rhifau 2800 – 4418
  • Adran C: Ffynonellau bywgraffyddol – wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl y person, rhifau 4419 – 5071
    (Mae dros 8,500 o gofnodion yn y gronfa, gan fod gan rai cofnodion gyda rhifau ar gyfer nifer o rannau)

Roedd gan y llyfryddiaeth wreiddiol Fynegai o awduron a oedd yn cyfeirio at rif eitem a ddefnyddiwyd wedyn i edrych ar y cofnod yn y llyfryddiaeth. Nid oes angen i chi wneud hynny yn y mynegai hwn ond mae’r rhif wedi’i gadw yn y gronfa ddata ac fe’i dangosir fel ei Bib_Ref.

Nid oedd gan y llyfryddiaeth wreiddiol fynegai i’r disgrifiadau a oedd yn cynnwys y teitl a’r wybodaeth lyfryddol gysylltiedig. Bydd unrhyw chwiliad a wnewch yn cynnwys disgrifiad yr eitem yn awtomatig (a ddangosir fel Teitl ac ati yn y tablau).