Cysylltiadau dros Môr Iwerddon: Symudiadau trwy’r oesoedd.
Cynhelir ein Ysgol Un-dydd ar ddydd Sadwrn 15 Chwefror 2025 yng Nghanolfan Glanhwfa, Ffordd Glanhwfa, Llangefni LL77 7EN.
Y thema fydd Cysylltiadau dros Môr Iwerddon: Symudiadau trwy’r oesoedd. Bydd pum darlithydd yn traethu yn ystod y dydd, pob un yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o hanes Môn a’r Iwerddon a bydd cyfleoedd i ofyn cwestiynau ac i drafod y pynciau dan sylw.
Bydd tâl cofrestru ( i gynnwys pris lluniaeth) yn cael ei gyhoeddi’n fuan ond, yn y cyfamser, bydd croeso i chi gysylltu â’r Gymdeithas (g.huws@hanesmon.org.uk.) er mwyn ymofyn mwy o fanylion neu i fynegi diddordeb mewn ymuno gyda ni yn yr Ysgol Un-dydd. Ni fydd y diwrnod yn cael ei gyfyngu i aelodau’r Gymdeithas yn unig felly bydd galw mawr am lefydd.
Cofiwch gadw llygaid barcud ar ein gwefan (www.hanesmon.org.uk) er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf.